Gallwch ail-ddarganfod y pleser o deithio ar y trên trwy lygaid eich plant gan fynd ar daith trên o Ben-y-bont ar Ogwr.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Let's Go Bridgend
Canolfan yr Arfordir Treftadaeth: Bae Dwnrhefn, Southerndown, Bro Morgannwg CF32 0RP.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, CF36 5NG
Mae’r traeth hwn nesaf at Draeth Coney ac yn hyfryd a thawel, er bod modd cerdded mewn pum munud i’r holl gyfleusterau y gallai fod eu hangen arnoch ym Mharc Gwyliau Bae Trecco.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Y Dderwen, Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru CF32 9SU. Ffôn: 01656 665700
Gall plant ddefnyddio unrhyw egni sydd dros ben ganddynt yn y maes chwarae neu gymryd seibiant yn y car plant y gellir ei logi tra byddwch chi’n dod o hyd i fargen neu’n ailwampio eich cwpwrdd dillad.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Llansanffraid-ar-Ogwr, CF32 0TF
Er mai Bae Dwnrhefn yw’r enw swyddogol ar y traeth, fe’i gelwir yn draeth Southerndown gan drigolion lleol y sir hon. Beth bynnag rydych chi’n ei alw, bydd y golygfeydd yn eich syfrdanu.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Ger Pen-y-bont ar Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg
Tua deng munud o daith mewn car o Ben-y-bont ar Ogwr ger Aberogwr, gallwch archwilio adfeilion y castell (lle gwelir defaid a merlod yn aml iawn), ac yna defnyddio’r cerrig sarn i groesi Afon Ewenni pan fydd y llanw’n isel.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Coety, Pen-y-bont ar Ogwr CF35 6BH
Croeswch y bont sy’n croesi’r ffos sych a mwynhewch bicnic ymhlith yr adfeilion trawiadol. Dilynwch ôl troed byddin Owain Glyn Dŵr, a cheisiwch weld pa rannau o’r safle sy’n dyddio o’r ddeuddegfed ganrif a pha rannau sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5BW
Mwynhewch flas o’r gorffennol yn yr eglwys Normanaidd hon sy’n debyg i gastell ac wedi parhau i gael ei defnyddio ers bron i 900 o flynyddoedd. Bu’n gartref i filwyr a mynachod ar wahanol adegau, a cheir yno wal len gaerog, porthdy a chastelliadau.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Llanilltud Fawr, CF61 1RA
Mae’n werth gwneud y daith 20 munud mewn car o Ben-y-bont ar Ogwr i ddilyn ôl troed seintiau, archwilio adfeilion atmosfferig Capel Galilea, a gweld rhai o’r croesau Celtaidd sydd wedi’u cadw orau yng Nghymru.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Heol y Ffynnon, Ton-du CF32 0EH. Ffôn: 01656 724100
Lle gwych i fynd i feicio neu gerdded, i weld blodau gwyllt a gwylio adar mewn coetiroedd, gwlyptiroedd a glaswelltiroedd. Rhaid talu am rai cyfleusterau.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Ton Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr CF33 4PT. Ffôn: 01656 743386
Dysgwch i adnabod adar a phlanhigion gyda help ceidwaid y warchodfa a hysbysfyrddau, dewch o hyd i degeirianau prin a chrwydrwch o amgylch llyn mwyaf Morgannwg yn y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig syfrdanol hwn.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Bryn y Graig Fawr, Margam, SA13 2TA
Mae’r daith fynachaidd i’r gogledd o Abaty Margam yn mynd â chi ar hyd llethrau hynod goediog y tu ôl i gaer fryniog o’r Oes Haearn i gapel canoloesol Hen Eglwys neu Gapel Mair.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr CF32 8UU.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Oddi ar Ffordd Margam, Groes, Port Talbot SA13 2TJ. Ffôn: 01639 881635
Tua 20 munud mewn car o Ben-y-bont ar Ogwr, nid oes prinder pethau i’w gwneud ym Margam.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Ystâd Masnachu Llandŵ, Y Bont-faen CF71 7PB. Ffôn: 01446 795568
Cyrhaeddwch a gyrrwch o amgylch y trac 1,050m, neu ymunwch â’r Academi Rasio i wella eich techneg a’ch amseroedd. Gall plant dan wyth oed ymuno â’r hwyl mewn cerbyd dwy sedd, a gall y gwibgerti un gyrrwr gyrraedd hyd at 45 mya.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Merthyr Mawr, Bro Morgannwg
Ar ôl taith â golygfeydd godidog yn y car, heibio i fythynnod to gwellt, cewch glirio eich pen gyda thaith gerdded o ddwy filltir tuag at y môr, neu llithrwch i lawr un o’r twyni anhygoel (gan gynnwys un o’r twyni mwyaf yn Ewrop) a mwynhau picnic ar y tywod.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy