Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, CF36 5NG

Mae’r traeth hwn nesaf at Draeth Coney ac yn hyfryd a thawel, er bod modd cerdded mewn pum munud i’r holl gyfleusterau y gallai fod eu hangen arnoch ym Mharc Gwyliau Bae Trecco. Mae teuluoedd wrth eu boddau yma oherwydd ansawdd y dŵr a’r achubwyr bywyd sydd ar gael yn ystod misoedd yr haf (ond cofiwch Dim Baner, Dim Achubwr Bywyd).